Offerynnau Statudol gydag Adroddiadau Clir
19 Mawrth 2018
SL(5)199 – Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) (Diwygio) 2018
Gweithdrefn: Negyddol
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017 ('Rheoliadau 2017'). Mae Rheoliadau 2017 yn darparu ar gyfer gwneud benthyciadau i fyfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar gyfer cyrsiau gradd feistr ôl-raddedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2017.
Mae Rheoliad 3 yn diwygio uchafswm hyd cwrs rhan amser os yw'n gallu cael ei ddynodi at ddibenion Rheoliadau 2017.
Mae Rheoliad 4 yn cynyddu swm y benthyciad sydd ar gael (o £10,280 i £13,000).
Mae'r diwygiadau'n berthnasol i ddarparu benthyciadau mewn perthynas â chwrs sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2018.
Deddf Wreiddiol: Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998
Fe’u gwnaed ar: 27 Chwefror 2018
Fe’u gosodwyd ar: 7 Mawrth 2018
Dyddiad dod i rym: 19 Ebrill 2018
SL(5)201 – Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Cofnodion Treth Gwarediadau Tirlenwi) (Cymru) 2018
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch y cofnodion y mae rhaid i berson sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy mewn perthynas â threth gwarediadau tirlenwi eu storio’n ddiogel o dan adran 38 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.
Deddf Wreiddiol: Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016
Fe’u gwnaed ar: 27 Chwefror 2018
Fe’u gosodwyd ar: 7 Mawrth 2018
Dyddiad dod i rym: 1 Ebrill 2018
SL(5)202 – Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) (Diwygio) 2018
Gweithdrefn: Negyddol
Mae cynllun Nyth Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yn dod i ben ar 31 Mawrth 2018 a bydd yn cael ei ddisodli gan gynllun Nyth Cartrefi Clyd newydd a fydd yn dechrau ar 1 Ebrill 2018. Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar ddyluniad y cynllun newydd gan arwain at nifer o newidiadau. Mae'r Rheoliadau hyn yn:
- gwneud newidiadau er mwyn galluogi uchafswm y grant (cap gwario) fesul cartref mewn eiddo â nwy a heb nwy i fod yn seiliedig ar gyfradd Tystysgrif Perfformiad Ynni cychwyn yr eiddo;
- cynnwys bylbiau golau ynni isel fel mesur i gymeradwyo grant;
- dileu darpariaeth grantiau rhannol;
- eithrio yr eiddo hynny sydd eisoes wedi derbyn cymorth o dan y cynllun rhag bod yn gymwys am y grant.
Deddf Wreiddiol: Deddf Nawdd Cymdeithasol 1990
Fe’u gwnaed ar: 6 Mawrth 2018
Fe’u gosodwyd ar: 9 Mawrth 2018
Dyddiad dod i rym: 1 Ebrill 2018